Rhwydwaith Hyfforddiant Sir Gaerfyrddin 

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol am ddatblygu rhwydwaith o uwch-reolwyr i weithio fel hyfforddwyr gweithredol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin er mwyn hyfforddi a datblygu uwch-reolwyr o sefydliadau sy'n bartneriaid a rhannu gwybodaeth a sgiliau ar draws y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

Bydd y rhwydwaith yn rhoi llawer o gyfleoedd i'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol megis:

 Datblygu ffyrdd newydd o gydweithio ar draws y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
 Rhannu rhagoriaeth ym maes arwain ar draws sefydliadau a manteisio ar sgiliau a gwybodaeth uwch-reolwyr lleol.
 Darparu cyfleoedd rhwydweithio rhagorol gan greu cysylltiadau â chymheiriaid ar draws sefydliadau.
 Darparu cyfleoedd dysgu cost-effeithiol i'r hyfforddwr a'r un sy'n cael ei hyfforddi.
 Darparu cyfle i wella dealltwriaeth o ddiwylliannau unigol sefydliadau sy'n bartneriaid a datblygu diwylliannau newydd a rennir rhwng sefydliadau.

Rydym yn dymuno i uwch-reolwyr ymgeisio i ddod yn hyfforddwyr gweithredol er mwyn creu'r rhwydwaith. Os hoffech gael eich datblygu i fod yn hyfforddwr gweithredol gofynnir ichi lenwi'r ffurflen gais amgaeedig a'i hanfon at Alex Machin, Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Corfforaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin erbyn 16 o Ionawr 2011 [nodir y manylion cyswllt isod].

Bydd y dogfennau amgaeedig yn rhoi rhagor o wybodaeth ichi am ddod yn hyfforddwr ond os hoffech drafod y rhwydwaith cysylltwch â chynrychiolydd eich sefydliad a nodir isod.

Sefydliad Enw cyswllt Rhif ffôn Cyfeiriad e-bost
Cymdeithas
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr  Liz Jenkins 01267 245555 Liz.Jenkins@cavs.org.uk

Cyngor Sir Caerfyrddin Alex Machin 01267 246174 amachin@sirgar.gov.uk

Coleg Sir Gâr Eirian Davies 01554 748124 Eirian.Davies@colegsirgar.ac.uk

Heddlu Dyfed-Powys Gareth Richards 01267 226264 Gareth.richards@dyfed-powys.pnn.police.uk

Bwrdd Iechyd Hywel Dda Mark Hunter 01267 239605 mark.hunter@wales.nhs.uk

Iechyd Cyhoeddus Cymru Claire Barley 029 2082 7641 Claire.Barley@wales.nhs.uk

Alex Machin
Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Corfforaethol
Cyngor Sir Caerfyrddin
amachin@sirgar.gov.uk
01267 246174

Share |