Fforwm Blynyddol Strategaeth Gymunedol Integredig

Cynhelir Fforwm Blynyddol y Strategaeth Gymunedol Integredig ar 12 Gorffennaf 2012 yng Nghwrs Rasio Ffos Las. Nod y Fforwm yw edrych yn ôl ar flwyddyn gyntaf y Strategaeth Gymunedol Integredig a chynllunio tuag at y dyfodol. Bydd cyfle i ddysgu mwy am waith y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, partneriaethau strategol y sir a rhwydweithio gydag unigolion a sefydliadau.
Read More >>Ymgynghoriad Bil Datblygu Cynaliadwy

Mae’r ddogfen ymgynghori yn disgrifio’n cynigion ar gyfer datblygu a chryfhau’r ffordd rydym am ymdrin â datblygu cynaliadwy yng Nghymru.Read More >> 
Bellach mae data ac ystadegau am fyw yn Sir Gaerfyrddin i’w cael ar wefan ryngweithiol sydd ar gael yn hwylus i’r cyhoedd.Read More >> 
...cynllun cynnwys ac ymgysylltu newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy’n rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ynghylch sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynllunio, eu datblygu a’u darparu.Read More >> Newyddion Sir Gar Rhifyn 6

Darllennwch rhifyn diweddaraf Newyddion Sir Gar
Read More >>
Trefniant gwirfoddol yw'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLL) sy'n dwyn ynghyd arweinwyr a phrif weithredwyr o sefydliadau allweddol, cynrychiolwyr o'r sectorau gwirfoddol a chymunedol, ac uwch was sifil o Lywodraeth Cymru.
Ei ddiben yw cynllunio gwasanaethau a goresgyn rhwystrau a phroblemau er mwyn sicrhau bod yr holl sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin yn gwneud hynny mewn modd sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae cynrychiolwyr y sector gwirfoddol yn sicrhau bod llais gan gymunedau lleol, ac ar yr un pryd mae'r uwch was sifil o Lywodraeth Cymru yn cynnig cyswllt rhwng buddiannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae'r Bwrdd yn cwrdd bob deufis. Mae'r Bwrdd yn rhan o'r rhwydwaith ehangach o bartneriaethau a elwir gyda'i gilydd yn Bartneriaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae’n goruchwylio datblygiad a gweithrediad y Strategaeth Gymunedol Integredig ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2011-16 a bydd yn adrodd ar gynnydd i’r Fforwm Blynyddol.