Llanelli
Yn draddodiadol, ystyriwyd mai Llanelli oedd calon ddiwydiannol Sir Gaerfyrddin, ond bellach mae’n ailddatblygu fel tref fodern, ddinesig. Mae peth diwydiant trwm yma o hyd, ond mae diwydiannau gweithgynhyrchu ysgafn yn manteisio ar gyfleoedd newydd i ddatblygu.
Mae Parc Arfordirol y Mileniwm, Parc Gwledig Pen-bre a chyfleusterau hamdden eraill yn ei gwneud yn un o ardaloedd mwyaf cyffrous y wlad i fyw ynddi. Mae Llanelli’n dal i gael ei thrawsnewid wrth i dai, gwasanaethau a chyfleusterau gael eu datblygu yn yr ardal.
Gwelir y datblygiadau newydd hyn fel cam pwysig wrth fynd i’r afael â phroblemau’r amddifadedd a adawyd gan dranc y diwydiannau traddodiadol. Mae ysbryd cymunedol cryf Llanelli yn amlwg yn y gefnogaeth sydd i dîm rygbi’r dref.
Am fwy o wybodaeth ar gynllunio cymunedol a gweithio partneriaethol yn ardal Llanelli, dilynwch y cysylltiadau isod:
Diweddariad Blynyddol Llanelli 2008
Cysylltiadau cymunedol i Lanelli
Mapio Rhyngweithiol ar gyfer Rhanbarth Llanelli: Cliciwch yma er mwyn cysylltu â gwasanaeth mapio ar lein CORGIS. Trwy ddefnyddio’r meddalwedd PlanAccess, mae’r gwasanaeth rhyngweithiol hwn yn cysylltu at wybodaeth a ddarperir gan y Cyngor ac Asiantaethau Partneriaethol, ar gyfer Rhanbarth Llanelli.

