Partneriaeth Sir GárPage Spacer
Partneriaeth Sir Gár

Taf Myrddin

Pobl Taf Myrddin 

Ardal wledig yn bennaf yw Taf Myrddin ac y mae’n cynnwys tref farchnad Caerfyrddin. Mae cyfanswm o ryw 50,000 o bobl yn byw yn yr ardal. Yn y gorffennol amaeth fu’n cynnal yr ardal. Fodd bynnag y mae tua hanner gweithwyr yr ardal yn gweithio yn y sector cyhoeddus bellach.

Mae ardal Taf Myrddin yn un o’r ardaloedd harddaf yng ngwledydd Prydain gyda’i bryniau glas, ei hafonydd a’i dyffrynoedd, tir amaeth helaeth a choetiroedd. Mae dwy brif afon ardal Taf Myrddin, sef afon Tywi yn y dwyrain ac afon Taf i’r gorllewin, yn llifo i’r môr ym Mae Caerfyrddin sydd wedi’i ddynodi yn Ardal Warchod Arbennig gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn diogelu adar gwyllt. Mae’r ardal wedi’i henwi ar ôl afon Taf a’r dewin Myrddin, sydd wedi’i gysylltu am byth â chwedl y Brenin Arthur. Credir bod Myrddin wedi byw yn yr ardal ganrifoedd yn ôl a’i fod wedi’i gladdu yma.

Yn y dyfodol bydd ffyniant a lles yr ardal yn dibynnu’n fawr ar feithrin yr hyn sy’n bodoli eisoes gan adeiladu ar y sylfaen hon, helaethu gwasanaethau yn enwedig yn y trefi a’r pentrefi a datblygu’r ardal gyfan a’i gwneud yn ardal y mae pobl am fyw ynddi ac ymweld â hi.

Am fwy o wybodaeth ar gynllunio cymunedol a gweithio partneriaethol yn ardal Taf Myrddin, dilynwch y cysylltiadau isod:

Cynllun Cymunedol Taf Myrddin

Diweddariad Blynyddol Taf Myrddin 2008

 

Cysylltiadau cymunedol Taf Myrddin

Gwefan Pentref Bancyfelin

Gwefan Pentref Bronwydd

Gwefan Pentref Llanboidy

Gwefan Pentref Llangain

Gwefan Pentref Llanpumsaint

Gwefan Llansteffan a'r Cylch 

Gwefan Pentref Llanybri

Gwefan Pentref Meidrim

Gwefan San Clêr 

Gwefan Hendy Gwyn-ar-Daf

 

Mapio Rhyngweithiol ar gyfer Rhanbarth Taf Myrddin: Cliciwch yma er mwyn cysylltu â gwasanaeth mapio ar lein CORGIS. Trwy ddefnyddio’r meddalwedd PlanAccess, mae’r gwasanaeth rhyngweithiol hwn yn cysylltu at wybodaeth a ddarperir gan y Cyngor ac Asiantaethau Partneriaethol, ar gyfer Rhanbarth Taf Myrddin.

 

Contacts / Cyswllt Contacts / Cyswllt Rheolydd Cynllunio Cymunedol
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran y Prif Weithredwr
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Ebost: cynlluniocymunedol@sirgar.gov.uk
Ffôn: 01267 224659
Partneriaeth Sir Gaerfyrddin © 2004