Lle Gwell
Yr Amgylchedd – gwella’r byd o’n cwmpas, heddiw ac ar gyfer yfory. Mae aer a dŵr glân ac amgylchoedd deniadol yn gwneud i bobl deimlo’n well hefyd. O ailgylchu deunyddiau i wella golwg lleoedd, o gadwraeth bywyd gwyllt i fwynhau’r byd naturiol. Mae’r ffordd yr ydym yn defnyddio’n hadnoddau heddiw yn effeithio ar ansawdd bywyd yfory.
Mae Partneriaeth yr Amgylchedd yn cwrdd i sicrhau fod amgylchedd Sir Gaerfyrddin yn cael ei ddiogelu a’i wella. Blaenoriaethau allweddol y bartneriaeth yw:
- Mynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd – Yn cael ei weithredu gan Grŵp Cynaladwyaeth Sir Gaerfyrddin
- Defnydd Cynaliadwy o Adnoddau – Yn cael ei weithredu gan y Fforwm ar gyfer Gwastraff a’r Grŵp Cynaladwyaeth Sir Gaerfyrddin
- Bioamrywiaeth arbennig, Tirweddau a Morluniau – Yn cael ei weithredu gan Grŵp y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol a’r Pwyllgor Gweithredol
- Ein Amgylchedd Lleol – Yn cael ei weithredu gan y Pwyllgor Gweithredol
- Peryglon Amgylcheddol – Yn cael ei weithredu gan Dîm Diogelu'r Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin (Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 08456 580 445)
- Trafnidiaeth Lleol – Yn cael ei weithredu gan Tîm Trafnidiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin
- Datblygu Cynaliadwy – Mae gan y Bartneriaeth gyfrifoldeb i gydlynu blaenoriaeth cynaladwyaeth y Bwrdd Gwasanaeth Lleol
Am fwy o wybodaeth am flaenoriaethau y Bartneriaeth, darllenwch yr
Amodau Gorchwyl (Saesneg yn unig)
Am fwy o wybodaeth ar weithgareddau Partneriaeth yr Amgylchedd, cliciwch ar y cysylltiadau isod:
Grŵp Cynaladwyaeth Sir Gaerfyrddin
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Fforwm Sir Gaerfyrddin ar gyfer Gwastraff
Diweddariadau Partneriaethol ar gyfer y Bwrdd Gwasanaeth Lleol
Cytundeb Gweithredu Lleol – Gweithrediadau Datblygu Cynaliadwy
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda: Owen Jones, Cydlynydd Partneriaeth yr Amgylchedd ar 01267 236367, neu drwy ebost

