Y Bartneriaeth
Mae gan Sir Gâr hanes cryf o weithio mewn partneriaeth rhwng y cyngor â’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol rydym wedi datblygu Bwrdd Gwasanaeth Lleol. Bydd y ‘Bwrdd’ yn gweithio drwy’r ffiniau trefniadol a diwylliannol arferol gan ddatblygu ‘gwasanaeth cyhoeddus’ a fydd yn canolbwyntio gwsmeriaid a’r math o wasanaeth y maent eu hangen ac eisiau.
Beth yw e?
Trefniant gwirfoddol yw’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol (BGLl) sy’n dwyn ynghyd yr arweinyddion a phrif weithredwyr o sefydliadau allweddol, cynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a chymunedol a uwch swyddog sifil o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ei bwrpas yw i gamu dros ffiniau a rhwystrau ac i sicrhau fod holl sefydliadau Sir Gâr yn darparu gwasanaethau o fewn y sir mewn ffordd sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf. Mae’r cynrychiolwyr sector gyhoeddus a chymunedol yn sicrhau fod cymunedau lleol yn cael llais, tra fod yr uwch swyddog sifil o’r Cynulliad yn cynnig cyswllt rhwng diddordebau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cyfarfu’r Bwrdd pob deufis. Mae’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol yn rhan o rhwydwaith ehangach o Bartneriaethau a elwir yn Bartneriaethau Sir Gâr. Cedwir gorolwg o nifer o strategaethau a chynlluniau ac fe fydd yn adrodd i’r Fforwm Cynllunio Cymunedol Blynyddol.
Beth mae’n ei wneud?
Fel trefniant gwirfoddol nid oes ganddo sail statudol ar ei ben ei hun ond mae’n ddylanwadol iawn wrth lywio ac annog partneriaethau yn eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Wrth dod a swyddogion allweddol at eu gilydd, mae’r Bwrdd yn ymdrin â materion traws ffinol – materion sy’n anodd ymdrin â nhw os yw sefydliad yn gweithio ar ei ben ei hun, ond y gellir eu datrys drwy weithio gyda’n gilydd. Mae’n derbyn cyflwyniadau ac adroddiadau ar faterion strategol allweddol ynghyd â derbyn diweddariadau cyson ar gynnydd.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae’r Bwrdd wedi cytuno ar Gytundeb Cyflenwi Lleol gyda Llywodraeth y Cynulliad sy’n rhestri’r blaenoriaethau, gweithredu a cherrig milltir a fydd yn cael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn. Ar gyfer 2008/09, ffocws y Bwrdd fydd Iechyd a Chynaladwyedd – materion pwysig iawn yn Sir Gâr. Nid yw hyn yn golygu na fydd materion eraill yn cael eu trafod – bydd y Bwrdd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Sir Gâr drwy’r Strategaeth Gymunedol ac am osod a chyflawni canlyniadau ar nifer o faterion a fydd yn gwneud Sir Gâr yn lle gwell i bawb.
Pa wahaniaeth fydd e’n ei wneud i mi?
Fel defnyddiwr gwasanaeth – wrth ymdrin â’r materion trawsffiniol sy’n wynebu defnyddwyr, mae’r Bwrdd am sicrhau fod yr holl sefydliadau yn Sir Gâr yn cyd-dynnu i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i’n cwsmeriaid, nawr ac yn y dyfodol. Fel gweithiwr cyflogedig mewn sefydliad sy’n bartner – gofynnir i chi chwarae eich rhan i wneud y Bwrdd, a gweithio mewn partneriaeth, yn llwyddiant.
Diddordeb – Eisiau gwybod mwy?
Mae nifer o ffyrdd y gallwch ddysgu mwy –
• Mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael ar-lein
• Gallwch dderbyn gwahoddiad i’r cyfarfod fforwm blynyddol
• Byddwch yn derbyn diweddariadau ac adroddiadau blynyddol drwy Newyddion Cymuned
Cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Cymunedol drwy:
cynlluniocymunedol@sirgar.gov.uk neu drwy ffôn ar 01267 224659
Cyn Grŵp Llywio Cynllunio Cymunedol yw Bwrdd Sir Gaerfyrddin yn y bôn, er fod yr aelodaeth wedi newid ychydig. Mae’r Bwrdd yn parhau i ddod â'r bobl allweddol hynny o fudiadau pwysig yn y sir sy'n gwneud penderfyniad-au, at ei gilydd. Mae’n parhau i fod yn gorff Gweithredol Fforwm Sir Gaerfyrddin ac i fod yn ran ohono. Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail fis ac i ddarllen cofnodion y cyfarfodydd, cliciwch yma
Aelodaeth y Bwrdd Gwasanaeth Lleol
Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr uwch o'r cyrff sy'n gyfrifol am strategau yn eu hardaloedd. Mae'r aelodaeth yn cael eu adolygu an aml er mwyn sicrhau cynrychiolaeth addas, ac ar hyn o bryd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r cyrff a'r sectorau canlynol:
+ Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Llywodraeth Cynulliad Cymru) - ELWa gynt
+ Adran yr Economi a Thrafnidiaeth (Llywodraeth Cynulliad Cymru) - ADC gynt
+ Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
+ Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin
+ Coleg Sir Gâr
+ Coleg y Drindod, Caerfyrddin
+ Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Caerfyrddin (CGGSG)
+ Cyngor Sir Caerfyrddin
+ Heddlu Dyfed Powys
+ Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda
+ Y Sector Gymunedol
+ Y Sector Preifat
+ Uwch Swyddog, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Ar hyn o bryd, Cyfarwyddwr yr Adran dros Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau)

