Partneriaeth Sir GárPage Spacer
Partneriaeth Sir Gár

Fforwm Partneriaeth Sir Gaerfyrddin

Fforwm Partneriaeth Sir Gaerfyrddin 2008

Cefndir

Fforwm Sir Gaerfyrddin yw partneriaeth strategol trosfwaol y sir ar gyfer Cynllunio Cymunedol. Mae'r Fforwm yn cwrdd yn flynyddol ac mae'r digwyddiad yn agored i bawb.

Fe'i sefydlwyd i hyrwyddo'r ymwneud ehangaf gan bobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin mewn penderfyniadau ynghylch dyfodol y sir. Mae’r Fforwm yn gyfrifol am Strategaeth Gymunedol Sir Gaerfyrddin a monitro ei chynnydd. Mae'n gwneud hyn trwy fonitro a goruchwylio gwaith y pum partneriaeth cynllunio cymunedol strategol (a fforymau a rhwydweithiau eraill), sy'n gyfrifol am drosglwyddo'r blaenoriaethau sirol a gytunwyd gan y Fforwm. I ddarllen adroddiadiau o'r cyfarfodydd, cliciwch yma

  
Cynrychiolaeth ar y Fforwm

Er mwyn hyrwyddo ymwneud eang, mae Fforwm Sir Gaerfyrddin yn gorff cynrychiadol sydd hefyd yn cynnwys aelodaeth y Grŵp Llywio Cynllunio Cymunedol. Er mwyn sicrhau cydbwysedd o ran cynrychiolaeth, mae cynrychiolwyr o'r sectorau gwirfoddol, cymunedol, cyhoeddus a phreifat yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod blynyddol. Mae'r cyrff a'r grwpiau sy'n cael eu cynrychiolu yn y Fforwm yn cynnwys:

 + Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Llywodraeth Cynulliad Cymru) 

+ Adran yr Economi a Thrafnidiaeth (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

+ Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

+ Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru

+ Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin

+ Coleg Sir Gâr

+ Coleg y Drindod, Caerfyrddin 

+ Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaefyrddin

+ Cymdeithasau Gwirfoddol

+ Cynghorau Tref a Chymunedol Sir Gaerfyrddin

+ Cyngor Cefn Gwlad Cymru

+ Cyngor Sir Caerfyrddin

+ Y Sector Breifat

+ Fforwm Pensiynwyr Sir Gaerfyrddin

+ Heddlu Dyfed Powys 

+ Hyrwyddwyr Datblygu Cymunedol

+ Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

+ Partneriaeth y Gwasanaeth Cyrfreithiol Cymunedol

+ Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda

+ Y Rhwydweithiau Cymunedol

 

Contacts / Cyswllt Contacts / Cyswllt Rheolydd Cynllunio Cymunedol
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran y Prif Weithredwr
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Ebost: cynlluniocymunedol@sirgar.gov.uk
Ffôn: 01267 224659
Partneriaeth Sir Gaerfyrddin © 2004