Partneriaeth Sir GárPage Spacer
Partneriaeth Sir Gár

Gweledigaeth Sir Gaerfyrddin 2020

Gweledigaeth Sir Gar

Ardal amrywiol yw Sir Gaerfyrddin – yn ei chymunedau, yn ei diwylliant, ei hamgylchedd, ei chyfansoddiad economaidd. Cymysgedd cyfareddol o’r trefol a’r gwledig, amaethyddiaeth a diwydiant ysgafn, lleoedd glan môr, ardaloedd ag anghenion cymdeithasol, trefi marchnad gwasgaredig a medrusrwydd mewn chwaraeon. Lle llawn cyfleoedd yn ogystal â heriau.

Lle Gwell... Yr Amgylchedd – gwella’r byd o’n cwmpas, heddiw ac ar gyfer yfory. Mae aer a dŵr glân ac amgylchoedd deniadol yn gwneud i bobl deimlo’n well hefyd. O ailgylchu deunyddiau i wella golwg lleoedd, o gadwraeth bywyd gwyllt i fwynhau’r byd naturiol. Mae’r ffordd yr ydym yn defnyddio’n hadnoddau heddiw yn effeithio ar ansawdd bywyd yfory.

Teimlo'n Dda…  Iechyd a Lles – mynd i’r afael ag achosion afiechyd trwy edrych ar fywyd yn ei grynswth. O wella’n cartrefi a’n bwyd i hamdden a chwaraeon, i adeiladu ar y gwasanaethau a all roi annibyniaeth i ni a’n hailfywiogi, iechyd yw’r angen mwyaf sylfaenol ohonynt i gyd. Mae pobl iach yn arwain at gymunedau iach.

Agor Drysau…  Dysgu Gydol Oes – helpu pawb i gyflawni ei botensial, o fore oes hyd ddyddiau henaint. Gwneud yn fawr o fywyd. Cynnig cyfleoedd i gael sgiliau a diddordebau newydd ac i wynebu heriau newydd. Gall olygu addysg a gwaith a diwylliant. O ddysgu am y byd o’n cwmpas i ddefnyddio’r we fyd-eang.

Buddsoddi ac Arloesi… Adfywio – adeiladu adnoddau, creu cyfleoedd a chynnig cymorth. Rhoi popeth yn ei le ar gyfer ffyniant yn y dyfodol. Sicrhau bod yr adnoddau’n iawn, creu’r agoriadau a rhyddhau menter naturiol ein pobl. Rhoi i gymunedau y grym a’r cyfleoedd i gyflawni eu potensial llawn.

Teimlo'n Ddiogel…  Cymunedau mwy Diogel – cynnig diogelwch, delio â throseddu ac ofn troseddau, ein helpu i warchod ein gilydd. Mae teimlad o ddiffyg diogelwch yn tanseilio ein hyder ac yn dwyn ein hasbri. O ffyrdd heb ddamweiniau i amddiffyniad rhag troseddau ac ymddygiad gwael. Adeiladu ar ein traddodiadau o gynhesrwydd a chymorth i’n gilydd. Helpu i amddiffyn ein plant fel ein bod ninnau’n teimlo’n fwy diogel hefyd.

Contacts / Cyswllt Contacts / Cyswllt Rheolydd Cynllunio Cymunedol
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran y Prif Weithredwr
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Ebost: cynlluniocymunedol@sirgar.gov.uk
Ffôn: 01267 224659
Partneriaeth Sir Gaerfyrddin © 2004