Ymwadiad Cyfreithiol a Hawlfraint
Defnyddir y wefan yma ar sail yr amodau a thelerau canlynol:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (ar ran Partneriaeth Sir Gaerfyrddin) wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y dogfennau sy’n cael eu cadw, eu cyflwyno a’u cyrchu ar www.partneriaethsirgaerfyrddin.org.uk yn cynnwys gwybodaeth gywir a dibynadwy. Fodd bynnag, ni allwn sicrhau na fydd camgymeriadau yn digwydd. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwadu cywirdeb unrhyw warant, a gynigwyd, neu a awgrymwyd ar y cyhoeddiad hwn.
Ni fydd Cyngor Sir Caerfyrddin (neu Partneriaeth Sir Gaerfyrddin) yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra a achosir yn sgîl unrhyw gamgymeriadau neu hepgoriadau sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan.
Gallai’r cyhoeddiad hwn gynnwys camgymeriadau technegol neu gamgymeriadau teipio. Ceidw Cyngor Sir Caerfyrddin yr hawl i wneud newidiadau yn ddirybudd.
Dosberthir y cyhoeddiad hwn yn rhyngwladol a gallai gynnwys cyfeiriadau at wasanaethau Cyngor Sir Caerfyrddin nad ydynt ar gael yn eich gwlad. Nid yw’r cyfeiriadau hyn yn awgrymu bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu darparu gwasanaethau o’r fath yn eich gwlad.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau sy'n anghywir neu'n amhriodol yn eich tyb chi, cysylltwch gyda ni drwy ebost neu drwy lenwi'r ffurflen atborth.
Ymwadiad i ddolenni allanol
Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin (ar ran Partneriaeth Sir Gaerfyrddin) yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Darparir y cysylltiadau yma er eich hwylustod. Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin (neu Partneriaeth Sir Gaerfyrddin) yn atebol neu’n gyfrifol am, yn cymeradwyo, yn cefnogi neu’n cytuno a’r gwybodaeth neu ddatganiadau sydd wedi eu cyhoeddi ar y gwefannau yma, ynghyd â gwefannau eraill sydd yn gysylltiedig a hwy.
Ni all Cyngor Sir Caerfyrddin (neu Partneriaeth Sir Gaerfyrddin) warantu cywirdeb, dibenadrwydd neu ddiogelwch unrhyw wybodaeth y gall trydedd blaid ymofyn oddi wrthych. Yn sgil hyn, ni fydd Cyngor Sir Caerfyrddin (neu Partneriaeth Sir Gaerfyrddin) yn gyfrifol am unrhyw fath o golled neu ddifrod, ar unrhyw adeg.
Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin (ar ran Partneriaeth Sir Gaerfyrddin) yn ymgymryd fod y cysylltiadau yma yn gywir neu’n aros ar lein.
Hawlfraint
© Cyngor Sir Caerfyrddin a Phartneriaeth Sir Gaerfyrddin 2004.
Cedwir pob hawl. Mae ein hawlfraint ni wedi ei ddiogelu gan ddeddfau’r Deyrnas Unedig ynghyd â deddfau hawlfraint ryngwladol.
Os na ddywedir yn wahanol, mae’r hawlfraint a hawliau tebyg ar yr holl wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan yma yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin a Phartneriaeth Sir Gaerfyrddin. Caniateir i chi argraffu neu is-lwytho darnau o wybodaeth i bwrpas personol yn unig. Ni cheir defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddefnydd o’r wefan hyn ar gyfer pwrpas masnachol neu gyhoeddus, heb ganiatâd ysgrifenedig Cyngor Sir Caerfyrddin a Phartneriaeth Sir Gaerfyrddin.

